Swansea City Jack — December 09, 2017

(Tina Sui) #1

OWAIN LLYR, BBC WALES


ERTHYGLAU CYMRAEG


http://www.swanseacity.com SWANSEA CITY v WEST BROMWICH ALBION

E


r bod pethau’n edrych yn
dywyll ar y funud ar ôl i
Abertawe syrthio y waelod
Uwch Gynghrair Lloegr y
penwythnos diwethaf mae’n rhaid
cadw’r ffydd a gobeithio y gall Yr
Elyrch ddianc o’r sefyllfa y maen
nhw ynddi ar y funud.
Does dim amheuaeth nad oedd y
canlyniad yn erbyn Stoke y
penwythnos diwethaf yn un
siomedig, ond o leiaf fe sgoriodd
Wilfried Bony ei gôl gyntaf ers
dychwelyd i’r clwb. Diffyg goliau
ydi’r prif reswm pam eu bod nhw ar
waelod y gynghrair; dim ond 8
maen nhw wedi eu sgorio
mewn 15 gêm. Ond os
y gallan nhw gael
Bony i sgorio’n
rheolaidd fel y
gwnaeth o yn
ystod ei gyfnod
cyntaf efo’r clwb

yna mi fydd hynny yn rhoi gwell
cyfle iddyn nhw ennill gemau.
Dair blynedd yn ôl roedd Bony yn
un o’r ymosodwyr gorau yn y
gynghrair. Mi gafodd o amser anodd
yn Manchester City, yna cyfnod
siomedig ar fenthyg efo Stoke.
Oherwydd hynny dydi o ddim wedi
chwarae yn rheolaidd ers cyfnod go
dda. Ond mae perfformiadau’r
ymosodwr mawr wedi gwella bob
gêm y tymor yma. A dwi’n siwr fod
yna lot mwy i ddod
ganddo rhwng rwan a
mis Mai.
Beth sy’n rhyfeddol
ydi fod gan Abertawe
record

amddiffynnol well na’r rhan fwyaf
o’r clybiau eraill yn y 10 safle isaf.
Dim ond Newcastle sydd wedi ildio
llai na nhw. Mae’r amddiffyn wedi
bod yn drefnus ac yn gadarn ac mi
fydd Paul Clement yn siomedig eu
bod nhw wedi ildio dwy gôl yn
erbyn Stoke yn enwedig felly gan
fod y ddwy ohonyn nhw wedi deillio
o gamgymeriadau.
Felly, yn syml, does ‘na ddim byd
mawr o’i le ar yr amddiffyn. Os ydi
Abertawe am aros yn y gynghrair
am dymor arall o leiaf yna mae’n
rhaid iddyn nhw wella’n ymosodol.
Mae’r cyfnod trosglwyddo ym mis
Ionawr yn mynd i fod yn holl-
bwysig i’r clwb ac mae’n bur debyg
y bydd angen iddyn nhw arwyddo
dau chwaraewr creadigol. Os
medran nhw greu mwy o gyfleoedd
mae ganddyn nhw ddau ymosodwr
yn Tammy Abraham a Wiflried Bony
sy’n gwybod sut mae canfod cefn y
rhwyd.
Free download pdf